Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 8
Hydref 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5849
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Gofynnodd Rhun ap Iorwerth gwestiynau ar ran Plaid Cymru.
Atebodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip y 5 cwestiwn am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â’i chyfrifoldebau.
Dechreuodd yr eitem am 14.43
Dechreuodd yr eitem am 14.59
Dechreuodd yr eitem am 15.46
Dechreuodd yr eitem am 16.22
Dechreuodd yr eitem am 17.16
NDM7154 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2019.
Dogfennau Atodol
Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.18
NDM7156 - Yr Arglwydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham
Dogfennau Atodol
Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.21
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 9 Hydref 2019